P-05-1124 Caniatáu i ddau unigolyn o ddwy aelwyd wahanol gwrdd ar gyfer ymarfer corff yn haen 4

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Laura Davies, ar ôl casglu cyfanswm o 847 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Mae cyfyngiadau haen 4 newydd yn golygu bod yn rhaid inni ymarfer corff ar ein pennau ein hunain neu gydag aelodau o'n cartref. Fel rhedwr, rwy'n tueddu i wneud y gweithgareddau hyn gyda ffrindiau er mwyn dod allan o’r rhigol (gan nad yw fy mhartner yn mwynhau'r gweithgareddau hyn, mae’n rhaid imi eu gwneud ar fy mhen fy hun bellach). Bydd caniatáu i ddau berson o ddwy aelwyd wahanol gwrdd yn hybu llesiant ac iechyd meddwl da yn ystod y cyfnod anodd hwn.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae cyfyngiadau haen 4 yn Lloegr yn caniatáu hyn.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Arfon

·         Gogledd Cymru